Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 3 Mawrth 2015 a dydd Mercher 4 Mawrth 2015
Dydd Mawrth 10 Mawrth 2015 a dydd Mercher 11 Mawrth 2015
Dydd Mawrth 17 Mawrth 2015 a dydd Mercher 18 Mawrth 2015
Dydd Mawrth 3 Mawrth 2015
Busnes y Llywodraeth
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 i'r Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (5 munud)
· Cynnig Cydsyniad Offeryn Statudol ar Orchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu'r Pwyllgorau Cynghori ar Blaladdwyr) 2015 (15 munud)
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol y Bil Troseddu Difrifol (Memorandwm Rhif 4): Camfanteisio'n rhywiol ar blant ac adrodd gorfodol ynghylch anffurfio organau rhywiol merched (30 munud)
· Dadl Cyfnod 3 ar y Bil Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) (240 munud)
Dydd Mercher 4 Mawrth 2015
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ynghylch newid yn yr hinsawdd (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar adolygiad Donaldson o'r cwricwlwm a threfniadau asesu: y camau nesaf (30 munud)
Busnes y Cynulliad
· Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y gwaith craffu ar ôl deddfu o ran Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer – Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) (30 munud) - dygwyd ymlaen o 11 Mawrth 2015
Dydd Mawrth 10 Mawrth 2015
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Dadl ar Ail Gyllideb Atodol 2014-15 (30 munud)
· Dadl Cyfnod 4 ar y Bil Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) (15 munud)
· Dadl Cyfnod 3 ar y Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (180 munud)
Dydd Mercher 11 Mawrth 2015
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (45munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud)
· Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (15 munud)
Busnes y Cynulliad
Dydd Mawrth 17 Mawrth 2015
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch Mynediad at Gyllid (30 munud)
· Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Darpariaethau Canlyniadol) 2015 (15 munud)
· Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Diwygio) 2015 (15 munud)
· Dadl ar Adroddiad Blynyddol Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru 2013-2014 (60 munud)
· Dadl ar Gyflog Cyfartal (60 munud)
Dydd Mercher 18 Mawrth 2015
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)
· Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)
Busnes y Cynulliad
(60 munud)